Gallwch ddefnyddio gwefan y Cronfa Loteri Fawr yn ddibynnol ar y Telerau a'r Amodau a welir ar y dudalen hon. Mae mynd at y wefan hon a'i defnyddio yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau a'r Amodau sydd mewn lle ar amser ei defnyddio.
Hawlfraint y Cronfa Loteri Fawr neu ei thrwyddedwyr yw'r Deunydd (gan gynnwys testun, delweddau, sain, fideo ac animeiddio) ar y Wefan hon. Ni chewch ailgyhoeddi, aildrosglwyddo, ailddosbarthu neu fel arall ei roi ar gael i unrhyw un arall neu mewn unrhyw gyfrwng arall heb gael caniatâd ysgrifenedig addas ac ymlaen llaw.
Mae'r enwau, delweddau a logos yn adnabod y Cronfa Loteri Fawr yn nodau perchnogol y Cronfa Loteri Fawr ac ni ellir eu hatgynhyrchu heb gael awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Cronfa Loteri Fawr.
Dylid cyfeirio'r cyfryw geisiadau am ganiatâd at:
Cronfa Loteri Fawr
1 Plough Place,
Llundain, EC4A 1DE
Ffôn: 0207 211 1800
Ffacs: 0207 211 1750
E-bost: webmaster@biglotteryfund.org.uk
Rhowch fanylion y defnydd y bwriadwch ei wneud o'r deunydd perthnasol a chynnwys manylion cysylltu â chi:- enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.
Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu yn uniongyrchol gyda'r tudalennau a welir ar y wefan hon. Er hynny, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar ein gwefan. Rhaid i'n tudalennau lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr.
Mae gennym ddolenni i dderbynyddion ein grantiau, partneriaid a gwefannau sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ac sy'n ychwanegu at ein gwasanaethau gwybodaeth ein hunain.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, barn na dolenni o'r gwefannau hyn.
Mae nifer o negeseuon e-bost yn cael eu cylchredeg ar hyn o bryd gan ddefnyddio enw’r Gronfa Loetri Fawr i ddweud wrth bobl eu bod wedi ennill arian. Mae fersiwn arall yn defnyddio enw Loteri'r Gemau Olympaidd. Negeseuon twyllodrus yw'r e-byst yma a dylid eu hanwybyddu. Y peth gorau i chi ei wneud yw eu dileu a dweud wrth eich ffrindiau a'ch cydweithwyr i wneud yr un fath.
Nid yw’r Gronfa Loteri Fawr yn rhoi arian fel gwobrau: rydym yn dosbarthu arian a godir gan Loteri genedlaethol y DU i achosion da yn y DU a thramor. Rydym yn rhoi grantiau yn unig i bobl a sefydliadu sydd wedi anfon cais atom ac rydym yn eu hysbysu a ydynt wedi bod yn llwyddiannus trwy lythyr, nid e-bost.
Mae Camelot yn delio gyda gwerthiant tocynnau Loteri a thocynnau llwyddiannus. Eu rhif ffôn yw: 0845 910 0000. Rydym wedi cysylltu â'r Heddlu Metropolitan ynglŷn â'r negeseuon e-bost yma.