Mewn rhai achosion y rheswm pam nad yw rhai grwpiau'n cymryd rhan yw oherwydd eu bod wedi cael profiadau gwael gyda 'biwrocratiaeth' yn y gorffennol ac yn teimlo eu bod wedi cael cam. O ganlyniad i hynny, efallai bydd ganddynt ddiffyg ffydd yn eich mudiad a'ch prosiect.
Felly bydd angen i chi ddod o hyd i ffyrdd o ennill eu ffydd. Efallai y bydd modd i chi wneud hyn trwy drafod eu barn a'u profiadau blaenorol a chytuno ar yr hyn y byddwch yn ei wneud yn wahanol i roi croeso iddynt.
Bydd angen i chi eu trin gyda pharch ac adeiladu perthynas gadarnhaolo dros amser. Mae'n syniad da hefyd i'w cynnwys yn llawn wrth gynllunio a gwerthuso eich prosiect er mwyn i chi gael gwybod pa mor effeithiol oedd y camau rydych wedi'u cymryd.
Roedd prosiect cyngor ariannol am greu cysylltiadau gydag aelodau o'r gymuned Teithwyr leol. Teimlodd y gallai gynnig gwasanaeth defnyddiol ond wedi'i chael hi'n anodd creu cysylltiadau ystyrlon yn y gorffennol. Penderfynodd y gweithiwr cynghori siarad ag elusen leol a oedd eisoes wedi datblygu cysylltiadau agos gyda'r Teithwyr. Esboniodd yr elusen fod y gymuned yn ddrwgdybus o bobl o'r tu allan, a chytunodd i weithredu fel cyfryngwr, Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o fod yn amyneddgar, gan fabwysiadu ymagwedd agored a gweithredol at wrando, a chynnig ymagwedd gwasanaeth hyblyg. |