Dyma rai pethau y gallwch eu hystyried i oresgyn y rhwystr hwn:
Roedd cylch chwarae cyn-ysgol yn awyddus i sicrhau ei fod yn denu ac yn darparu ar gyfer plant ag anableddau. Roedd eisiau darparu cyfleoedd chwarae sy'n annog yr holl blant i gymysgu'n dda. Trwy drafodaethau gyda mudiad anableddau lleol a rhieni i blant anabl, roedd yn gallu datblygu rhaglen weithgareddau a ddarparodd ar gyfer plant anabl ac abl eu cyrff. Ystyriodd y rhaglen hoff bethau a chas bethau pob plentyn a'u hanghenion cefnogi penodol. Un o bwyntiau dysgu allweddol y grŵp oedd bod angen iddo fabwysiadu ymagwedd lai strwythuredig a meddu ar ddigon o staff, llawer o weithgareddau bach a chyfarpar chwarae a sefydlwyd eisoes ynghyd â hyblygrwydd o ran yr hyn yr oedd yn ei wneud. |