Skip to content

Cyrraedd pawb

Os oes angen i chi gyrraedd ystod ehangach o bobl

Ar ddiwedd bob blwyddyn byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym am yr hyn y gwnaethoch i sicrhau bod pawb a allai elwa o'ch prosiect yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddefnyddio neu gymryd rhan ynddo. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddweud wrthym pa mor effeithiol yr oeddech wrth gyrraedd pawb a allai elwa o'ch prosiect.

Pan oeddech yn cynllunio eich prosiect byddech wedi ystyried pwy allai elwa ohono ond a oedd yn llai tebygol o'i ddefnyddio neu gymryd rhan ynddo. Ac ar sail casglu eich data cydraddoldeb byddwch yn gallu dweud p'un a oeddech yn effeithiol ai beidio wrth gyrraedd y bobl hyn. Os yw eich canlyniadau'n dangos nad oeddech mor effeithiol ag y gallech fod, bydd angen i chi gymryd camau i ddelio â hyn. Mae'r tudalennau a ganlyn yn eich hysbysu am yr ymagwedd rydym yn ei hawgrymu:

Arweiniad pellach

Rydym wedi nodi peth arweiniad pellach a all eich helpu wrth gyrraedd pawb.