Skip to content

Senior management team

Joanne McDowell

Joanne McDowell

Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon

Yn ogystal â chwrdd ag amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, mae gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn rhoi cyfle i mi wrando ar y gwirfoddolwyr a’r buddiolwyr sy’n ymwneud â’r prosiectau a ariannwn. Mae hyn yn gyfle gwirioneddol a gwerthfawr i mi ddeall y gwahaniaeth y mae arian loteri’n ei wneud i gymunedau yng Ngogledd Iwerddon a ledled y DU.

Penodwyd Joanne yn Gyfarwyddwr Gogledd Iwerddon y Gronfa Loteri Fawr ym mis Medi 2010. Mae wedi gweithio i’r Gronfa ac un o’i rhagflaenwyr ers 11 mlynedd. Cyn ei phenodiad diweddaraf, bu’n gyfrifol am waith polisi, datblygu a materion cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Cyn ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr, bu Joanne yn ddarlithydd Astudiaethau Ewropeaidd a datblygu gwledig, a gweithiodd fel ymgynghorydd i brif gorff sector preifat yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gan Joanne Ddoethuriaeth o Brifysgol Wlster, mewn polisi cynllunio a newid deddfwriaethol yn Sbaen.