Filter this website by UK country or region

Ceri Doyle

Ceri Doyle

Cyfarwyddwr, Cymru

Ein nod yw ariannu prosiectau sy’n wirioneddol torri tir newydd, sy’n ymbweru pobl i drawsnewid eu hamgylchedd drwy wneud eu cymunedau yn llefydd gwell i fyw, gweithio a chwarae

Penodwyd Ceri yn Gyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru yn 2004. Mae profiad blaenorol Ceri’n cynnwys swyddi rheoli uwch mewn Llywodraeth Leol yn Yr Alban, sefydlu nifer o gwmnïau nid er elw yn cynrychioli buddiannau’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol o ran mynd i’r afael â diweithdra ac adfywio cymunedol.

Enwebwyd Ceri yn Fenyw y Flwyddyn Cymru yn 2005 a than 2008 roedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg. Yn ddiweddar mae Ceri wedi ymuno â Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Gyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae hi’n aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen Cynhwysiad Digidol.