Filter this website by UK country or region

Walter Rader

Walter Rader

Cyfarwyddwr, Gogledd Iwerddon

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cael effaith sylweddol trwy ariannu prosiectau ar lefel gymunedol. Rydym yn helpu sefydliadau a phrosiectau i gyflwyno’r hyn sydd wirioneddol ei angen ac mae hyn yn newid bywydau

Mae gan Walter 34 blynedd o brofiad yn gweithio gyda chymunedau lleol ar draws Gogledd Iwerddon. Bu'n gweithio gyda'r sectorau statudol a gwirfoddol yn ogystal â gyda chyrff DU gyfan.

Mae ganddo brofiad o weinyddu ffrydiau ariannu Ewropeaidd a bu'n gyfrifol am sefydlu un o'r cyrff ariannu cyfryngol ar gyfer rhaglen Heddwch Ewropeaidd 1 (European Peace I programme). Bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus Prince's Trust Gogledd Iwerddon am dros 13 blynedd ac mae'n gysylltiedig gyda Gwobrwyon Dug Caeredin.

Mae'n aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Fforwm Prif Weithredwyr Gogledd Iwerddon. Yn yr 1980au roedd gan Walter gysylltiadau agos gydag Uned Rhaglenni Ieuenctid y BBC, Belffast fel un o hyfforddwyr gwirfoddol gohebwyr ieuenctid y Gwasanaeth Cymunedol.