
Mae gennym enghreifftiau o sut mae grwpiau a mudiadau eraill wedi cydnabod eu grantiau gennym ni:
Rydym eisiau i chi fanteisio i’r eithaf ar eich grant. Dilynwch y camau cywir i sicrhau eich bod yn cyflawni’ch potensial
Mae'ch cytundeb yn nodi fod yn rhaid i chi gydnabod eich grant gan y Loteri Genedlaethol. Efallai i chi dderbyn eich grant drwy'r Gronfa Gymunedol neu'r Gronfa Cyfleoedd Newydd. O hyn allan, Cronfa Loteri Fawr yw'r ariannwr sy'n rhaid i chi ei gydnabod. I wneud pethau'n rhwyddach i chi gydnabod eich grant byddwn yn eich darparu a deunyddiau newydd am ddim.
Mae ein logo a'n deunyddiau cydnabod ar gael mewn dau liw - pinc a glas. Gallwch ddefnyddio pa un bynnag sydd well gennych, neu gallwch ddefnyddio'r ddau. Cofiwch nodi ba liw fyddai orau gennych neu byddwch yn derbyn eitemau ar sail yr hyn sydd gennym yn ein warws. Mae ein holl eitemau i dderbynwyr grant yng Nghymru yn ddwyieithog.
Mae'r holl eitemau yma'r un fath. O ganlyniad i'r swm uchel o brosiectau a ariwnwn, nid yw'n bosibl i ni gynhyrchu eitemau unigol. Fodd bynnag, os teimlwch na fydd unrhyw rai o'r eitemau yma o ddefnydd i chi, cysylltwch â'r tîm brandio yn branding@biglotteryfund.org.uk a fydd yn barod i'ch helpu.
Os ydych wedi derbyn grant o dros £500,000, dylech gysylltu â'r rheolwr brand yn branding@biglotteryfund.org.uk i drafod sut i gydnabod eich grant; yn arbennig os ydych wedi derbyn arian o ffynonellau eraill.
Nodwch os gwelwch yn dda fod yn rhaid i bob prosiect yng Nghymru ddefnyddio ein deunyddiau cydnabod dwyieithog.
Cliciwch ar y delweddau isod i weld y llun cyfan.
| Plac dur gwrthstaen (310mm x 260mm) | Plac persbecs (310mm x 260mm) |
Automatically imported picture.- 49KB | Automatically imported picture.- 35KB |
| Arwyddion ffens tywarch: pinc neu glas (1500mm x 500mm) |
Automatically imported picture.- 68KB |
| Baner finyl: pinc neu glas (600mm x 500mm) | Placiau alwminiwm bach ar gyfer offer (115mm x 80mm) |
Automatically imported picture.- 47KB | Automatically imported picture.- 20KB |
| Logo i’w smwddio ar ddillad: gwyn new ddu (70mm x 55mm) | Sticeri cerbydau: gwyn neu ddu (210mm x 150mm) |
Automatically imported picture.- 31KB | Automatically imported picture.- 31KB |
| Sticeri offer: pinc neu glas (bach 120mm ar draws; canolig 180mm ar draws; mawr 240mm ar draws) |
Automatically imported picture.- 27KB |
| Taflenni sticeri A4 (meintiau amrywiol: pinc neu glas) |
Automatically imported picture.- 57KB |

Mae gennym enghreifftiau o sut mae grwpiau a mudiadau eraill wedi cydnabod eu grantiau gennym ni: