Bydd yr amser a’r ymdrech y dylech eu rhoi ar gyfer hunanwerthuso ddibynnu’n rhannol ar eich adnoddau.
Mae nodiadau arweiniad eich rhaglen yn rhoi gwybodaeth ynghylch y ganran o’ch cyllideb y gellir ei dyrannu i werthuso. Dylai prosiectau mwy fedru cyflawni darn mwy helaeth o waith ond gallai fod angen i brosiectau llai ganolbwyntio ar ychydig bethau maent eisiau eu darganfod.
Gallwch gynnwys data rydych wedi’i gasglu fel rhan o’ch gwaith monitro hefyd.
Rydym yn eich annog i gynllunio a chynnal eich gwerthusiad er mwyn iddo gynnwys barn amrywiaeth o’ch budd-ddeiliaid – er enghraifft, defnyddwyr neu fuddiolwyr prosiectau, staff, cynrychiolwyr cymunedol, awdurdodau statudol a noddwyr/arianwyr.
Os ydych yn brosiect llai gyda llai o arian, gallai fod yn well i chi ganolbwyntio ar gael gwybodaeth fanylach am effaith eich prosiect ar ei ddefnyddwyr allweddol.
Fel rhan o’n gwaith gyda phobl ifanc, rydym wedi ymchwilio i ffyrdd o gynnwys pobl ifanc mewn gwaith gwerthuso, o’r enw “
Cynnwys pobl ifanc mewn gwerthuso ac ymgynghori Mae'r cyhoeddiad hwn yn amlinellu agweddau amrywiol ar sut i gynnwys pobl wrth gynllunio a rhedeg prosiectau This publication outlines various aspects of the question of how to engage people in planning and running projects. - 343KB (2005). Mae llawer o’r un canllawiau’n berthnasol i grwpiau eraill.