Senior management team
-
Peter Wanless
Prif Weithredwr -
Linda Quinn
Director of Communications and Marketing -
Gerald Oppenheim
Cyfarwyddwr, Perfformio a Chynllunio -
Mark Cooke
Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol -
Walter Rader
Cyfarwyddwr, Gogledd Iwerddon -
Dharmendra Kanani
Cyfarwyddwr, Yr Alban -
Ceri Doyle
Cyfarwyddwr, Cymru
Peter Wanless
Prif Weithredwr
Mae’n bleser gennyf weithio i sefydliad sydd â’r cyfrifoldeb o helpu cymunedau a phobl sydd mewn angen mwyaf trwy’r Ddeyrnas Unedig i wella ansawdd eu bywyd trwy wneud gwahaniaeth i’r pethau sydd fwyaf pwysig iddynt
Ymunodd Peter Wanless â’r Gronfa Loteri Fawr fel prif weithredwr yn Ionawr 2008 o’r Adran dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd, ble’r oedd yn Gyfarwyddwr yr Adran Deulu. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Perfformiad Ysgol a Diwygio.
Wedi’i eni yn 1964, addysgwyd Peter yn Ysgol Sheldon yn Chippenham, ble roedd ei dad yn dysgu cerddoriaeth.
Rhwng 1983 ac 1986 astudiodd Peter Hanes Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Leeds cyn iddo ymuno â’r gwasanaeth sifil. Am ddeng mlynedd, bu’n gweithio mewn amryw rolau trysorlys, yn cynnwys pennaeth Polisi Cyllid Preifat, a bu’n ysgrifennydd preifat i dri gweinidog cabinet. Symudodd Peter ar draws i’r Adran dros Addysg a Chyflogaeth yn 1998 fel y Cyfarwyddwr dros Strategaeth a Chyfathrebu.
Mae’n briod ag un mab. Mae’n cefnogi Clwb Criced Sir Somerset ac mae’n hoff o rai sioeau teledu Americanaidd amheus.