Buddion
- Cynllun pensiwn
- Gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael
- Absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu cyflogedig
- Absenoldeb tadolaeth cyflogedig
- Absenoldeb rhiant cyflogedig
- Talebau Gofal Plant
- Benthyciadau prynu beic a thocyn tymor
- Seibiant gyrfa di-dâl
- Seibiant dyletswydd cyhoeddus cyflogedige
- Oriau Gwaiths
- Oedran ymddeo
- Datblygiad cyflog
- Prawf
- Cynllun nawdd corfforaethol
- Cynllun gofal iechyd
- Cynllun buddion disgownt i staff



Mae gweithwyr y Gronfa Loteri Fawr yn mwynhau telerau ac amodau gwych gyda phecyn buddion cystadleuol a pholisi gweithio hyblyg
Yn unol â’n cenhadaeth a gwerthoedd, fel cyflogwr rydym yn ymrwymedig i amrywiaeth a chyfle cyfartal. Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn Fuddsoddwr mewn Pobl. Rydym eisiau creu amgylchedd gwaith positif a gwerthfawr, wedi’i gefnogi gan ein pedwar gwerth mewnol:
- gwaith tîm
- gwerthfawrogi pobl
- atebolrwydd
- rhagoriaeth gwasanaeth.
Cynllun pensiwn
Cewch ymuno â chynllun pensiwn hael. Pe bai’n well gennych ymuno â phensiwn cyfranddeiliaid, byddwn yn gwneud cyfraniad o hyd at 12.5 y cant o’r cyflog, gan ddibynnu ar eich oed, ynghyd â chyfraniad cyfatebol ychwanegol o hyd at 3 y cant arall.
Gweithio hyblyg
Mae gennym ystod eang o ddewisiadau gweithio hyblyg ffurfiol ac anffurfiol er mwyn galluogi i dimau ac unigolion reoli cydbwysedd gwaith-bywyd, wrth sicrhau bod y sefydliad yn gallu gweithio’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- oriau rhan amser
- oriau cryno
- oriau gweithio ansafonol
- gweithio ad hoc o gartref
- rhannu swydd
- oriau gweithio hyblyg.
Gwyliau blynyddol hael
Y gwyliau blynyddol yw 25 diwrnod y flwyddyn wrth ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr, gan godi gan un diwrnod am bob blwyddyn cyflogaeth hyd at gyfanswm o 30 diwrnod. Rhoddir tri diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn – fel arfer dros y Nadolig. Rydym hefyd yn rhoi wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus i staff sy’n gweithio yn ein swyddfeydd yn Lloegr.
Absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu cyflogedig
Bydd staff sy’n gymwys am dâl mamolaeth statudol yn derbyn tâl llawn am 22 wythnos gyntaf eu habsenoldeb mamolaeth.
Absenoldeb tadolaeth cyflogedig
Bydd staff sy’n gymwys ar gyfer tâl tadolaeth statudol yn derbyn 10 diwrnod ar gyflog llawn.
Absenoldeb rhiant cyflogedig
Bydd gan staff sydd wedi gweithio gyda ni am flwyddyn hawl i un wythnos o absenoldeb i rieni ar gyflog llawn bob blwyddyn os oes ganddynt un plentyn neu fwy o dan 8 oed. Mae hyn yn ychwanegol at eu hawl gwyliau blynyddol.
Talebau Gofal Plant
Rydym yn cynnig cynllun aberth cyflog am dalebau gofal plant i alluogi i staff elwa o fanteision treth hael er mwyn talu am gostau gofal plant yn y modd hwn.
Benthyciadau prynu beic a thocyn tymor
Mae staff sydd wedi gweithio i ni am fwy na mis yn gymwys ar gyfer benthyciad prynu beic a thocyn tymor yn rhydd rhag llog.
Seibiant gyrfa di-dâl
Gall staff sydd wedi gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr am ddwy flynedd ofyn am doriad gyrfa ddi-dâl am hyd at 50 wythnos bob pum mlynedd.
Seibiant dyletswydd cyhoeddus cyflogedig
Gall staff gymryd hyd at 18 diwrnod o absenoldeb cyflogedig y flwyddyn er mwyn ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus.
Oriau Gwaith
Yr wythnos waith safonol ar gyfer staff llawn amser yw 37 awr, gydag isafswm o 30 munud o amser cinio di-dâl yn ychwanegol.
Oedran ymddeol
Yr oed ymddeol arferol yn y Gronfa Loteri Fawr yw 65. Ar gais yr unigolyn, ac ar ddisgresiwn y rheolwyr, gall staff barhau i weithio ar gontract blynyddol hyd at 70 oed. Gall staff sy’n aelodau o’r cynllun pensiwn cyflog terfynol ddewis ymddeol ar unrhyw oed o 60 ymlaen.
Datblygiad cyflog
Ynghyd â dyfarniad cyflog blynyddol, mae’r holl staff yn derbyn cynnydd dilyniant blynyddol o hyd at bwynt targed uchaf o 80 y cant o gyfanswm yr ystod gyflog ar gyfer eu gradd. Mae’r gyfradd ddatblygiad yn dibynnu ar leoliad cyflog yr aelod staff yn yr ystod gyflog, yn berthynol i'r ddwy garreg filltir ar gyfer pob ystod - 25 a 50 y cant.
Prawf
Mae pob aelod o staff sy’n ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr ar brawf o chwe mis. Bydd staff ar gyfnod prawf yn derbyn dyfarniad sylfaenol a thâl datblygiad; y ddau ar gyfradd o’u hamser yn y sefydliad ar 1 Ebrill. Telir y rhain unwaith y byddant wedi cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Cynllun nawdd corfforaethol
Mae cynllun nawdd corfforaethol y Gronfa Loteri Fawr yn cefnogi staff sydd wedi gweithio i ni am flwyddyn i astudio am gymwysterau sy’n briodol i’w swydd a’u datblygiad proffesiynol. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn cynnwys talu ffioedd cwrs yn llawn neu’n rhannol a hyd at 12 diwrnod o absenoldeb astudio cyflogedig. Ymhlith y cymwysterau cymwys y mae:
- TGAU
- Lefel A/S
- Diplomau a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch
- Graddau cyntaf
- Tystysgrifau Ôl-raddedig
- diplomâu a graddau
- Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Gall staff newydd sy’n ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr sydd eisoes yn astudio am gymwysterau sy’n bodloni ein hamcanion corfforaethol ymgeisio am arian.
Cynllun gofal iechyd
Bydd yr holl staff yn rhan o Medicash wrth ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr. Mae Medicash yn gynllun gofal iechyd rhad sy’n cynnig ystod o fuddion gofal iechyd.
Cynllun buddion disgownt i staff
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig cynllun buddion disgownt sy’n cynnig ystod eang o ddisgowntiau gyda masnachwyr stryd fawr arweiniol a siopau lleol - ac mae hynny yn helpu staff i arbed arian ar siopa, gwibdeithiau, gwyliau a llawer yn fwy.