A good practice guide for small to medium sized voluntary or community sector organisations
Arweiniad arfer da ar gyfer sefydliadau bach a chanolig y sector gwirfoddol a chymunedol.
Adran 1: Sefyllfa’r Gronfa Loteri Fawr – ein hymdriniaeth tuag at gydraddoldeb
Adran 2: Ymgeisio i’r Gronfa Loteri Fawr: meddwl am gydraddoldeb o’r cychwyn cyntaf
Adran 3: Nawr eich bod wedi ennill y grant: cydraddoldeb ar waith
Mae cydraddoldeb o bwys i’r Gronfa Loteri Fawr. Rydym eisiau defnyddio arian y loteri er mwyn cyflwyno newidiadau i gymunedau trwy ariannu pobl, prosiectau a rhaglenni gyda phwyslais penodol ar anghenion cymunedol.
Mae’r arweiniad hwn yn rhan o’n gyriant i hyrwyddo cydraddoldeb ac uchafu cyfleoedd er mwyn i bobl gymryd rhan yn y prosiectau yr ydym yn eu hariannu.
Trwy roi cydraddoldeb wrth galon cynllunio a gweithredu prosiect, mae sefydliadau yn fwy tebygol o gyflawni gwell canlyniadau.
Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddisgrifio a meddwl am eich arfer beunyddiol ar gydraddoldeb. Mae wedi’i anelu’n benodol at sefydliadau bach a chanolig gwirfoddol a chymunedol.
Bydd yn eich helpu i adnabod yr hyn yr ydych chi eisoes yn ei wneud yn dda yn eich ymdriniaeth tuag at gydraddoldeb a sut y gallech chi wella ar hynny hefyd. Mae’n rhoi cyngor ar sut i gynnwys cydraddoldeb wrth gynllunio prosiectau newydd ac mae’n esbonio ein hegwyddorion cydraddoldeb a pham ei bod yn bwysig talu sylw iddynt os ydych chi’n ymgeisio am grant oddi wrthym ni. Disgwyliwn i chi ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb sy’n gymesur â natur a maint eich prosiect a sefydliad.
Yn olaf, mae’r arweiniad yn esbonio sut y disgwyliwn i’ch sefydliad weithredu egwyddorion cydraddoldeb unwaith y bydd gennych grant. Ceir ymarferion a chynghorion ymarferol, ynghyd â chamgymeriadau cyffredin y mae ymgeiswyr grantiau yn eu gwneud, ac enghreifftiau o arfer da o geisiadau blaenorol.
Rydym wedi paratoi ffurflen adborth cryno er mwyn ein helpu i wella ein harweiniad Materion Cydraddoldeb a byddem yn gwerthfawrogi eich barn. Bydd eich adborth yn ddienw.
Arweiniad arfer da ar gyfer sefydliadau bach a chanolig y sector gwirfoddol a chymunedol.
Cyflwyniad
Mae cydraddoldeb o bwys i’r Gronfa Loteri Fawr. Rydym eisiau defnyddio arian y Loteri er mwyn cyflwyno newidiadau i gymunedau drwy ariannu pobl, prosiectau a rhaglenni, gyda phwyslais penodol ar fynd i’r afael ag angen. Mae’r arweiniad hwn yn rhan o’n gyriant i hyrwyddo cydraddoldeb ac uchafu cyfleoedd er mwyn i bobl gymryd rhan mewn prosiectau yr ydym yn eu hariannu.
Wrth roi cydraddoldeb wrth galon cynllunio a gweithredu’r prosiect, mae sefydliadau’n fwy tebygol o gyflawni canlyniadau gwell.
Mae hwn yn arweiniad ymarferol. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i feddwl ynghylch eich arfer dyddiol ar gydraddoldeb a’i ddisgrifio. Mae wedi’i anelu’n benodol at sefydliadau bach neu ganolig y sector gwirfoddol neu gymunedol, pa un a ydynt yn gwneud cais i’r Gronfa Loteri Fawr am arian ai peidio.
Nod yr arweiniad hwn yw’ch helpu i adnabod yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud yn dda yn eich ymdriniaeth tuag at faterion cydraddoldeb, a’ch helpu i adnabod sut y gallwch wella ar hynny. Serch hynny, yn y pendraw, eich dewis chi yw faint yr ydych chi eisiau ystyried materion cydraddoldeb.
Ar hyd y ffordd, byddwn yn darparu ymarferion ac awgrymiadau ymarferol. Byddwn hefyd yn edrych ar rai o’r camgymeriadau cyffredin y mae ymgeiswyr grant yn eu gwneud, a byddwn yn darparu enghreifftiau o arfer da o geisiadau blaenorol i’r Gronfa Loteri Fawr.