Skip to content

Ffynonellau cymorth

Mae'r daflen wybodaeth hon yn cynnwys dolenni i ffynonellau cymorth pellach a allai eich helpu wrth gasglu eich tystiolaeth a chyrraedd pawb. Mae hefyd yn rhestru rhai mudiadau defnyddiol.

Casglu eich tystiolaeth

A Guide to Equality and Diversity in the Third Sector (2008)

Yn darparu cymorth ymarferol ar gywain data (adran 4).

Equality information and the equality duty: A guide for public authorities (2011)

Yn darparu arweiniad mewn perthynas â chywain data ac ymdrin â gwybodaeth gydraddoldeb fwy sensitif (adran 5).

Ethnic Monitoring: A Guide for Public Authorities (Non-statutory) (2002)

Yn darparu arweiniad ymarferol am gywain a dadansoddi data.

Monitoring Diversity and Equality of Opportunity in Volunteering (2010)

Yn darparu arweiniad ymarferol ar gywain data mewn perthynas â gwirfoddolwyr, y gellir ei addasu a'i gymhwyso i ddefnyddwyr prosiectau. Mae hefyd yn cynnwys sampl o ffurflen fonitro.

Measuring Effectiveness (2002)

Yn darparu nifer o offerynnau monitro a gwerthuso ynghyd ag awgrymiadau ar sut i gyflawni cyfradd ymateb dda (tud. 42 – 43).

Equality statistics in practice at a local level (2009)

Yn disgrifio'r heriau y mae nifer o gyrff sector cyhoeddus wedi'u profi mewn perthynas â chywain data, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da (adran 4.5).

Cyrraedd mwy o bobl

How to communicate with hard-to-reach groups

Yn darparu cyngor ymarferol ar gyfathrebu â phobl y cyfeirir atynt fel 'anodd eu cyrraedd’.

Working with Hard to Reach Young People – a practical guide (2007)

Yn darparu canllawiau ymarferol ar gyfer mudiadau sydd am wella eu cysylltiadau gyda phobl ifanc sy'n anodd eu cyrraedd, gyda'r nod o leihau troseddu.

Hard to reach: easy to ignore - Engaging and Working with Black and Minority Ethnic and Faith Groups (2009)

Yn disgrifio profiadau a rennir o ymgysylltu a gweithio gyda Grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig a Grwpiau Ffydd.

Mudiadau defnyddiol

1. Cyffredinol

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gylch gwaith statudol ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban i hyrwyddo a monitro hawliau dynol; ac i ddiogelu, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y naw maes "a ddiogelir" - oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd a chred, beichiogrwydd a mamolaeth, priodasau a phartneriaethau sifil, tueddfryd rhywiol ac ailaseinio rhyw. Mae ei wefan yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau ac ymchwil.

Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rhwydwaith cenedlaethol o fudiadau sy'n hyrwyddo cydweithredu ar draws y llinynau cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae ei wefan yn cynnwys amrywiaeth helaeth o adroddiadau a gwybodaeth gydraddoldeb.

Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon

Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am roi deddfwriaeth cyflogaeth deg, gwahaniaethu ar sail rhyw, tâl cyfartal, cysylltiadau hiliol, tueddfryd rhywiol ac anabledd ar waith yng Ngogledd Iwerddon. Mae hefyd yn goruchwylio'r dyletswyddau ststudol o dan Adran 75 Deddf Gogledd Iwerddon. Mae ei wefan yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau ac ymchwil.

Swyddfa Cydraddoldebau'r Llywodraeth

Mae Swyddfa Cydraddoldebau'r Llywodraeth yn gyfrifol o fewn y llywodraeth am strategaethau a deddfwriaeth ar gydraddoldeb, ac mae'n cymryd rôl arweiniol ar faterion cydraddoldeb sy'n ymwneud â menywod, tueddfryd rhywiol a materion trawsryw. Mae ei gwefan yn cynnwys cyhoeddiadau, taflenni gwybodaeth ac ymchwil.

2. Rhyw a Hunaniaeth Rhyw

Canolfan Adnoddau Menywod

Dyma elusen genedlaethol sy'n cefnogi mudiadau menywod i fod yn fwy effeithiol ac yn gynaliadwy. Mae ei gwefan yn darparu gwybodaeth am gyhoeddiadau ac mae nifer o ddolenni i adnoddau eraill.

Press for Change

Dyma mudiad sy'n ymgyrchu dros barch at bob person trawsryw. Mae swm sylweddol o adnoddau a gwybodaeth ar ei wefan. Mae hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau trawsryw.

3. Tueddfryd rhywiol

Stonewall

Mae Stonewall yn fudiad sy'n ymgyrchu ar faterion lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae ei wefan yn cynnwys ystod o wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i fudiad sy'n ceisio rhoi arfer da ar waith.

LGBT Consortium of VCOs

Mae'r Consortiwm LGBT yn gorff ar gyfer mudiadau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryw. Mae ei wefan yn cynnwys nifer o adnoddau.

4. Oedran

Age UK

Nod Age UK yw gwella bywyd i bob person hŷn trwy wybodaeth a chyngor, ymgyrchoedd, cynnyrch, hyfforddiant ac ymchwil.

Cyngor Ieuenctid Prydain

Diben Cyngor Ieuenctid Prydain yw cynrychioli llais pobl ifanc. Mae ei ymchwil yn darparu ymchwil ac adroddiadau.

5. Anableddau

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB)

Mae'r mudiad hwn yn ymgyrchu dros ac yn gweithio gyda phobl ddall ac â golwg rhannol. Mae cyhoeddiadau niferus ar ei wefan.

Action on Hearing Loss

Mae'r elusen hon yn gweithio gyda phobl ddall ac â nam ar y clyw. Mae'r wefan yn cynnwys ystod o adnoddau.

Mencap

Mae Mencap yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'r wefan yn cynnwys nifer o daflenni gwybodaeth a chyhoeddiadau.

Mind

Nod Mind yw hyrwyddo safbwyntiau a dyheadau pobl â phroblemau iechyd meddwl trwy herio gwahaniaethu, hyrwyddo cynhwysiad a dylanwadu ar bolisi. Mae'r wefan yn cynnwys amrywiaeth o daflenni gwybodaeth.

6. Ethnigrwydd

CEMVO

Mae CEMVO yn darparu llais ar gyfer sector lleiafrifoedd ethnig, gwirfoddol a chymunedol Prydain. Mae'r wefan yn cynnwys ystod o gyhoeddiadau ac astudiaethau achos.

Race on the Agenda (ROTA)

Mae ROTA yn felin drafod polisi cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar faterion yn effeithio ar gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r wefan yn cynnwys ystod o gyhoeddiadau ymchwil.

Voice for Change England

Mae Voice for Change England yn bartneriaeth o fudiadau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n siarad ac yn ymgyrchu ar ran mudiadau BME trydydd sector. Mae'r wefan yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau ymchwil.

7. Crefydd neu gred

Sefydliad Faith Regen

Mae'r mudiad hwn yn arbenigo mewn deialog rhyng-ffydd a rhwng cymunedau a diwylliannau, adeiladu gallu ac adfywio. Mae'n hyrwyddo gwell dealltwriaeth rhwng pobl o wahanol ffydd ac yn adnabod atebion ar gyfer annog perthnasoedd cadarnhaol gyda chymdeithas aml-ffydd sy'n seiliedig ar gydweithio.

Rhwydwaith Interfaith y DU

Nod y Rhwydwaith Inter Faith yw hyrwyddo perthnasoedd da rhwng pobl o wahanol ffydd yn y DU. Mae'r wefan yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau.

Cymdeithas Dyneiddiol Prydain

Mae Cymdeithas Dyneiddiol Prydain yn fudiad y mae ei genhadaeth yw cynrychioli buddion y bobl hynny yn y wlad hon nad oes ganddynt gred grefyddol. Mae'n ymrwymedig i gymdeithas agored a chynhwysol sy'n parchu hawliau dynol a chydraddoldeb. Mae'r wefan yn cynnwys nifer o adnoddau.