Yn eich ffurflen Dechrau eich grant byddwn yn gofyn i chi amcangyfrif y ganran o bobl a fydd yn elwa o'ch prosiect o dan nifer o gategorïau cydraddoldeb. Nid oes unrhyw atebion model. Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu'n dibynnu ar ddiben eich prosiect. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddweud wrthym pa dystiolaeth rydych wedi'i defnyddio wrth lunio eich amcangyfrifon.
Mae'n bosib bod gennych dystiolaeth wrth law eisoes trwy eich gwaith ymchwil neu ymgynghori eich hun, neu efallai y bydd modd i chi ddod o hyd iddi ar ffurf:
Bydd swm y dystiolaeth y bydd modd i chi ddod o hyd iddo'n dibynnu ar y math o brosiect a'i raddfa, faint rydych yn ei wybod am y bobl a fydd yn elwa, a faint o amser sydd gan eich staff neu wirfoddolwyr i wneud gwaith ymchwil arno. Gan gofio hyn i gyd, mae angen i chi fedru dangos bod gennych ymagwedd gytbwys at lunio eich amcangyfrifon.
Mae'n bosib na fydd modd i chi ddod o hyd i ddata diweddar ar gyfer yr ardal lle cynhelir eich prosiect, neu y byddwch yn ei chael hi'n anodd casglu mathau penodol o ddata cydraddoldeb, er enghraifft ar dueddfryd rhywiol neu grefydd a chred. Mewn sefyllfa fel hyn bydd angen i chi fabwysiadu ymagwedd ymarferol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu cyflawni eich darn bach o ymchwil eich hun neu seilio eich amcangyfrifon ar ystadegau o ardal ddaearyddol ehangach.