PrFont34Bin0BinSub0Frac0Def1Margin0Margin0Jc1Indent1440Lim0Lim1Gallwch ymgeisio i'r Gronfa Loteri Fawr am rai o'ch costau cyffredinol yn ogystal â chostau uniongyrchol eich prosiect. Mae'r dudalen hon yn esbonio sut i gyfrifo'ch costau cyffredinol er mwyn i chi ymgeisio am yr holl ariannu y mae ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect.
Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau ariannu ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm wrth redeg prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ymgeisio am ariannu ar gyfer costau prosiect uniongyrchol ac am gyfran gymesur o gostau cyffredinol eich mudiad.
Mae prosiect yn ddarn penodol ac unigryw o waith rydych am i ni ei ariannu.
Costau prosiect uniongyrchol yw'r costau sy'n ymwneud yn eglur ac yn amlwg â phrosiect. Gall y rhain gynnwys cyflogau gweithwyr prosiect, treuliau gwirfoddolwyr a gliniadur penodedig ar gyfer y prosiect.
Costau cyffredinol yw costau sy'n cefnogi'r prosiect yn rhannol, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich mudiad yn eu darparu. Gall y rhain gynnwys canran o gyflogau staff craidd megis gweinyddwyr, costau rhent a chyfleustodau neu ffioedd cyfreithiol ac archwilio eich mudiad.
Os yw'r prosiect rydych yn ceisio ariannu ar ei gyfer yn waith craidd a'r unig brosiect rydych yn ei redeg, nid oes angen i chi gyfrifo'ch costau cyffredinol ar wahân - gofynnwch am holl gostau eich prosiect fel costau prosiect uniongyrchol.
Mae mudiad bach yn rhedeg clwb cinio unwaith yr wythnos. Nid yw'n gwneud unrhyw waith arall nac yn cynnal unrhyw brosiectau eraill. Mae cinio, hurio lleoliad ac unrhyw dreuliau gwirfoddolwyr yn gostau uniongyrchol. Nid oes unrhyw gostau cyffredinol.
Os ydych yn rheoli nifer o brosiectau neu weithgareddau ar yr un pryd, mae angen i chi gyfrifo sut i rannu costau cyffredinol eich mudiad rhwng yr holl brosiectau.
Mae mudiad yn rhedeg tri phrosiect o un adeilad: clwb cinio i bobl oedrannus, sesiynau hyfforddi i rieni sengl a dosbarthiadau dawns i aelodau'r gymuned. Hoffai'r mudiad dderbyn ariannu ar gyfer y prosiect hyfforddi ac mae wedi cyfrifo bod costau uniongyrchol y prosiect yn cynnwys cyflog yr hyfforddwr, llyfrau, deunyddiau swyddfa, gliniadur a thaflunydd. Mae'r costau rhent a chyfleustodau'n gostau cyffredinol ac mae'n rhaid eu rhannu'n gyfartal rhwng tri phrosiect y mudiad.
Cyfrifwch gyfanswm costau cyffredinol eich mudiad a'u rhannu rhwng pob un o'ch prosiectau mewn ffordd deg a rhesymol, fel yr esbonnir yn yr arweiniad isod.
I gael mwy o gymorth ac enghreifftiau: