Skip to content

Sut gall y Gronfa Loteri Fawr eich helpu chi

Bydd prosiectau’n derbyn arweiniad gan staff y Gronfa Loteri Fawr ynghylch sut i hunanwerthuso (er enghraifft, drwy ddigwyddiadau briffio rhaglenni neu arweiniad rhaglenni), neu fe gânt eu cyfeirio at ffynonellau lleol o gyngor a chymorth.

Gweler yr adran Pwy arall all helpu i gael gwybodaeth am wasanaethau cefnogi ac arweiniad arbenigol gan sefydliadau eraill.

Ar gyfer rhai rhaglenni, rydym yn defnyddio ymgynghorwyr i gefnogi hunanwerthusiad prosiectau drwy gydol y grant. Gall hyn gynnwys:

  • cefnogaeth drwy e-bost
  • cymorth dros y ffôn
  • gwefannau penodedig
  • canllawiau ysgrifenedig
  • gweithdai a seminarau ar gyfer hyfforddiant a rhwydweithio, a
  • chymorth un i un wrth ddewis technegau a dulliau gwerthuso, trefnu cymryd rhan ac ymgynghori, dylunio deunyddiau ymchwil, dadansoddi a dehongli data a chyflwyno canfyddiadau.

Mae cyhoeddiad y Gronfa Loteri Fawr: Esbonio'r gwahaniaeth a ddaw yn sgil eich prosiect: canllaw'r Gronfa Loteri Fawr i ddefnyddio ymagwedd seiliedig ar ganlyniadau A BIG guide to using an outcomes approach - 331KB

Mae'r canllaw hwn yn amlinellu rhai o'r prif gamau y bydd angen i chi eu hystyried wrth gynllunio a rheoli prosiect gan ddefnyddio ymagwedd seiliedig ar ganlyniadau. Mae'r canllaw hefyd ar gael ar ein gwefan. - 331KB  (Burns, S a MacKeith, J, 2006) hefyd yn cynnwys rhai penodau sy’n berthnasol i hunanwerthuso, o’r enw,   ‘Measuring progress’ a ‘Learning from your outcomes’. Gallwch ddod o hyd i’r canllaw hwn yn.