Bwrdd
-
Professor Sir Clive Booth
Cadeirydd y Bwrdd -
Anna Southall
Aelod Bwrdd Cyffredin -
Sanjay Dighe
Cadeirydd Lloegr -
Breidge Gadd CBE
Cadeirydd Gogledd Iwerddon -
Alison Magee
Cadeirydd yr Alban -
Huw Vaughan Thomas
Cadeirydd Cymru -
Diana Whitworth
Aelod Bwrdd Cyffredin -
Judith Donovan CBE
Aelod Bwrdd Cyffredin -
Roland Doven MBE
Aelod Bwrdd Cyffredin -
John Gartside OBE
Aelod Bwrdd Cyffredin -
Albert Tucker
Aelod Bwrdd Cyffredin
Professor Sir Clive Booth
Cadeirydd y Bwrdd
Gan adeiladu ar gyraeddiadau ardderchog ein rhagflaenwyr, fy uchelgais yw y bydd y bwrdd newydd yn ymdrechu i wireddu ein gweledigaeth o ddod a gwir welliannau i gymunedau ac i’r bobl mewn mwyaf o angen
Derbyniodd Syr Clive Booth radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn gwyddoniaeth o Brifysgol Caergrawnt, a doethuriaeth mewn ariannu cyhoeddus o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Bu’n uwch was sifil yn yr Adran Addysg hyd at 1981 ac yn Brif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol (1975-77).
Daeth i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Polytechnig Plymouth (1981-84), Arolygydd Ysgolion Cysylltiol (1984-86), Cyfarwyddwr Polytechnig Rhydychen (1986-92) ac Is-Ganghellor Prifysgol Brookes Rhydychen (1992-97). Cadeiriodd yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon (1997-2003), Corff Adolygu Cyflog Nyrsys (1997-2004) ac roedd yn ddirprwy gadeirydd Asiantaeth Datblygu De Ddwyrain Lloegr (1998-2004). Bu’n uwch gynghorydd addysg i Fanc y Byd a’r Cyngor Prydeinig. Cafodd ei urddo’n farchog yn 2003 am ei wasanaethau i addysg uwch.
Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Cronfa Loteri Fawr dros y DU, a Chadeirydd Centrex, corff cenedlaethol hyfforddi’r heddlu. Mae hefyd yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol er mwyn lleihau aildroseddu a chynnal adolygiad o gyflog yr heddlu ar gyfer y Swyddfa Gartref. Mae’n aelod o fwrdd golygyddol yr Oxford Review of Education.
Mae’n stryffaglio gyda rhandir, yn colli’n aml wrth chwarae bridge ac yn cael cysur drwy opera.