Mae’r datganiad hwn yn ymdrin â’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gronfa Loteri Fawr yn:
Y Rheolwr Data ar gyfer y gwefannau hyn yw’r Gronfa Loteri Fawr. Nid yw’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol ac nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys dolenni o fewn y wefan hon i wefannau eraill.
Diben y datganiad hwn yw hysbysu defnyddwyr gwefannau'r Gronfa Loteri Fawr am ba wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanynt pan fyddant yn ymweld â’r wefan hon, sut mae’r wybodaeth honno'n cael ei defnyddio, p'un a yw’n cael ei datgelu neu beidio a’r ffyrdd yr ydym yn amddiffyn preifatrwydd defnyddwyr.
Bydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch yn cael ei ei chadw'n ddiogel yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon heb eich caniatâd oni bai ei bod yn angenrheidiol i ni wneud hynny o dan y gyfraith.
Mae hawl gennych i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch ar unrhyw amser
Dylai adborth a sylwadau ar y gwefannau a restrir uchod gael eu hanfon at webmaster@biglotteryfund.org.uk
Dim ond i ddatblygu a gwella'r wefan neu i ymateb i chi pan yn angenrheidiol y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma.
Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweinyddu eich cwyn, cais am wybodaeth neu ymholiad cyffredinol. Mae'n bosib y byddwn yn trosglwyddo eich manylion neu yn eich cyfeirio at ddosbarthwyr Loteri arall, adran o fewn y Llywodraeth neu fudiad perthnasol arall pan fo angen.
Os byddwch yn cofrestru i dderbyn negeseuon e-bost byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i ni i ddarparu’r gwasanaeth(au) yr ydych wedi gofyn amdanynt. Mae’n bosib y byddwn ar brydiau yn cysylltu â’r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer negeseuon e-bost i’n helpu i werthuso a gwella'r gwasanaethau a gynigiwn.
Os byddwch yn ein hysbysu eich bod am ganslo eich cofrestriad byddwn yn tynnu eich enw oddi ar ein rhestr e-bost a bydd eich manylion yn cael eu dileu o’n cofnodion.
Cwcis yw’r data sy’n cael ei greu pan fyddwch yn ymweld â gwefan, ac maent yn cynnwys rhif unigryw anhysbys. Maent yn cael eu storio yn y cyfeiriadur cwci ar eich gyriant caled, ac nid ydynt yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol. Os dewiswch beidio â derbyn y cwci, ni fydd hwn yn effeithio ar eich mynediad i’r mwyafrif o gyfleusterau sydd ar gael ar ein gwefannau.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio cwcis ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddiwr nad yw'n wybodaeth bersonol o’n gwefannau. Nid yw’r gwefannau'n casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi heblaw am yr wybodaeth honno y mae ei hangen er mwyn gweinyddu system y gwefannau.
Mae ffeiliau log yn cofnodi defnydd o’r gwefannau. Mae Tîm Cyfryngau Newydd y Gronfa Loteri Fawr yn casglu gwybodaeth ffeil log gan ein holl ymwelwyr, a ddefnyddir i wneud gwelliannau i wefannau ac i’r wybodaeth sydd arnynt. Yn yr un modd â Cwcis, nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.
Os byddwch yn derbyn y fersiwn wedi’i fformatio gyda HTML o newyddlen, byddwn yn gwybod pan fyddwch yn agor yr e-bost newyddlen a bydd yr wybodaeth honno'n cael ei chadw. Byddwn hefyd yn cofnodi pan fyddwch yn clicio ar ddolenni o fewn y newyddlen. Mae’r rhain a’r ystadegau agored yn cael eu defnyddio mewn ffurf gronnol i roi syniad i ni o ba mor boblogaidd y mae’r cynnwys ac i’n helpu i wneud penderfyniadau am gynnwys a fformatio ar gyfer y dyfodol.
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod y fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon.
Diweddarwyd diwethaf ym mis Mai 2008