Y Gronfa Fawr yw'r mudiad o fewn y Gronfa Loteri Fawr ar gyfer ariannu nad yw'n dod o'r Loteri
Trwy Ddeddf y Loteri Genedlaethol (2006) rhoddwyd i'r Gronfa Loteri Fawr y grym i drin arian nad yw'n dod o'r Loteri yn ogystal ag arian y Loteri. Mae profiad, isadeiledd ac arbenigedd y Gronfa Loteri Fawr yn golygu ei bod mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflwyno ariannu ehangach i'r gymuned.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr eisoes yn cyflwyno grantiau nad ydynt yn dod o'r Loteri trwy'r rhaglen Asedau Cymunedol ar ran y Swyddfa Cymdeithas Sifil, y rhaglen myplace, y mae'n ei gweinyddu ar ran yr Adran Addysg, a'r Gronfa Drosglwyddo ar ran y Swyddfa Cymdeithas Sifil.
Pan sefydlwyd Banc y Gymdeithas Fawr, gofynnwyd i ni ddosbarthu hyd at £5 miliwn a godwyd o gyfrifon banc segur drwy raglen Cronfa Fuddsoddi'r Gymdeithas Fawr. Bydd hyn yn gwireddu rhai buddion cynnar ac yn darparu sbardun ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn nodi'n eglur y bydd yn atebol am, ac yn hyrwyddo, ariannu nad yw'n dod o'r Loteri yn annibynnol i ariannu'r Loteri. Byddwn yn adrodd bob blwyddyn ar unrhyw grantiau a ddyfernir ac yn diweddaru tudalennau ariannu perthnasol ein gwefan yn rheolaidd gyda manylion y grantiau a ddyfernir. Caiff y rhain eu brandio'n wahanol ac ar wahân i ariannu'r Loteri.
Yng Nghymru bydd y rhaglen Camau Cynaliadwy yn defnyddio arian o gyfrifon segur (cyfrifon cwsg) i helpu cymunedau i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid yn yr hinsawdd trwy ddatblygu sgiliau, newid ymddygiad a hyrwyddo datblygu cynaliadwy ehangach.
Gan hynny, mae rôl ddatblygol y Gronfa Loteri Fawr wrth weinyddu ariannu nad yw'n dod o'r Loteri yn defnyddio hunaniaeth unigryw, sef y Gronfa Fawr. Bydd hyn yn sicrhau gwahaniaeth clir rhwng ariannu'r Loteri a ddosbarthwn a'r ariannu nad yw'n dod o'r Loteri rydym yn ei reoli ar ran trydydd partïon. Y Gronfa Loteri Fawr yw'r mudiad sy'n gwneud y gwaith o hyd.
Bydd logo'r Gronfa Fawr yn ymddangos ar bob cyhoeddiad, datganiad i'r wasg a rhannau o wefan y Gronfa Loteri Fawr sy'n ymdrin â rhaglenni nad ydynt wedi'u hariannu gan y loteri. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan dderbynyddion ariannu'r rhaglenni hyn.
Mwy o wybodaeth