Gallwch ddefnyddio arolygon defnyddwyr i gasglu gwybodaeth am nodweddion defnyddwyr prosiectau; er enghraifft trwy gynnwys cyfres o gwestiynau cydraddoldeb mewn arolwg boddhad cwsmeriaid neu ffurflen gwerthuso prosiect. Mae hyn yn helpu i gwtogi ar faint y gwaith ychwanegol.
Yn gyffredinol byddwch yn casglu'r data hwn yn ddienw, felly does dim gofyniad i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data. Un o fanteision casglu eich data'n ddienw yw y byddwch, o bosib, yn cael gwell ymateb i gwestiynau cydraddoldeb mwy sensitif. Fodd bynnag, nid yw'r ymagwedd hon yn rhoi cyfle i chi gadw cofnod o'r bobl sy'n defnyddio eich prosiect dros amser. Yn hytrach, mae'n rhoi cipolwg i chi o'r bobl sy'n defnyddio eich prosiect ar un pwynt.
Ar ben hynny mae'n golygu na allwch werthuso neu gynnal arolwg o weithgareddau eich prosiect yn fwy nag unwaith y flwyddyn gan fod yna risg o gasglu gwybodaeth gydraddoldeb am yr un person yn fwy nag unwaith, gan wyro eich canlyniadau felly.