Y ffordd orau o ddod o hyd i oedran, rhyw, cefndir ethnig ac ati yw gofyn i'r person ddosbarthu ei hun. Gallwch wneud hyn trwy gasglu data'n rheolaidd a defnyddio ffurflenni monitro cydraddoldeb ac arolygon defnyddwyr. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cymysgedd o'r ymagweddau hyn.
Gallwch gael rhywun arall i ddosbarthu person os na allant ei wneud eu hunain. Gall hyn fod oherwydd oedran y person neu oherwydd iddynt gael eu hystyried yn fregus (er enghraifft oherwydd nam meddyliol).
Os yw unrhyw ddata a gasglwch yn gysylltiedig ag unigolyn (fel y gallai unrhyw un sy'n edrych ar y data adnabod y person) mae'n mynd yn ddata personol. Mae data personol yn destun gofynion y Ddeddf Diogelu Data. Os byddwch yn casglu data'n ddienw does dim gofyniad i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data.
Os byddwch yn casglu unrhyw ddata personol bydd angen i chi esbonio pam rydych yn gofyn amdano, am beth y bydd yn cael ei ddefnyddio, sut y bydd yn cael ei gadw'n ddiogel a chyda phwy y caiff ei rannu (mae hyn yn arfer da hyd yn oed os ydych yn casglu data'n ddienw). Bydd darparu'r esboniad hwn yn blwmp ac yn blaen hefyd yn helpu i gynyddu eich cyfradd ymateb.
Mwy o wybodaeth am ddiogelu data >>>
Bydd y tudalennau canlynol yn rhoi gwybodaeth i chi am yr offer gwahanol y gallwch ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth trwy gydol eich prosiect.
Rydym wedi cynhyrchu set o
gwestiynau enghreifftiol
- 112KB ar gyfer casglu data cydraddoldeb y gallwch eu defnyddio yn eich ffurflenni neu arolygon. Ond bydd angen i chi eu haddasu fel eu bod yn addas ar gyfer eich prosiect a'i ddefnyddwyr.
Rydym hefyd wedi adnabod rhywfaint o arweiniad pellach a allai eich helpu wrth i chi gasglu eich tystiolaeth.