Skip to content

Rhestr Termau Ymchwil a Gwerthuso

Yn aml gall ymchwil a gwerthuso ddefnyddio termau mewn ystyr benodol. Defnyddir y diffiniadau yn y rhestr termau hon gan y Gronfa Loteri Fawr

Defnyddir y diffiniadau yn y rhestr termau hon gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae rhestrau termau ymchwil a gwerthuso eraill ar gael yn:

Rhestr Termau

Cost-effeithiolrwydd a dadansoddiad costau-buddion:

Dull sy'n archwilio effeithiolrwydd a buddiannau economaidd hir dymor drwy safoni buddsoddiadau a chanlyniadau yn unol â'u costau ariannol.

Lledaenu:

Darparu gwybodaeth a gafwyd o ymchwil neu werthuso i fudd-ddeiliaid a'r cyhoedd.

Asesiad o'r gallu i werthuso:

Dull o benderfynu a yw gwerthusiad yn ddichonol a sut y gall budd-ddeiliaid ei ddefnyddio.

Asesu ffurfiannol:

Gwerthusiad sy'n archwilio:

  • cyflwyniad y rhaglen
  • ansawdd ei weithrediad
  • y cyd-destun trefniadaethol, personél, gweithdrefnau a mewnbynnau.

Mae canfyddiadau dros dro'n cael eu bwydo'n ôl i gyfranogwyr y gwerthusiad i ddylanwadu ar sut maent yn symud ymlaen wedyn. Y nod yw cryfhau neu wella'r rhaglen sy'n cael ei gwerthuso. Mae gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwerthuso ffurfiannol yn cynnwys asesiadau anghenion, asesiadau o'r gallu i werthuso, a gwerthusiadau gweithredu a phroses.

Gwerthuso effaith:

Yn asesu effaith gyffredinol, bwriadol neu anfwriadol, y rhaglen ar amodau cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol ehangach.

Gwerthuso rhoi ar waith:

Gwerthusiad sy'n asesu i ba raddau mae rhaglen yn cael ei rhoi ar waith yn ôl y bwriad gwreiddiol.

Sefydliad sy'n dysgu:

Sefydliad sydd â sgiliau:

  • creu, caffael a throsglwyddo gwybodaeth
  • hwyluso dysgu ar lefel y sefydliad cyfan
  • addasu ei ymddygiad i adlewyrchu gwybodaeth neu fewnwelediad newydd.

Meta-ddadansoddiad:

Yn cyfuno canlyniadau sawl gwerthusiad i gynhyrchu casgliad cyffredinol ynglyn ag effeithiolrwydd rhaglen neu ymagwedd ar draws sefyllfaoedd.

Yn y Gronfa Loteri Fawr byddem yn defnyddio ymagweddau meta-ddadansoddi mwy pragmatig. Un enghraifft o hyn yw cyfuno canfyddiadau gwerthusiadau'r gwledydd fel un gwerthusiad cyfan ar gyfer y DU.

Monitro:

Y broses barhaus o ymchwilio i gyflwyno allbynnau rhaglenni, a gyflawnir wrth i raglen gael ei gweithredu, gyda'r nod o gywiro unrhyw wyriad o amcanion gweithredol.

Mae hyn wedi'i gyferbynnu â gwerthusiad sy'n digwydd ar adegau penodol, sy'n cynnwys astudiaeth fanwl ac sy'n ymwneud â defnyddio barn yn erbyn y meini prawf.

Yn aml mae monitro'n cynhyrchu data a all gael ei ddefnyddio mewn gwerthusiadau.

Asesiad anghenion:

Dull o benderfynu pwy sydd â'r angen am y rhaglen, pa mor fawr yw'r angen a'r hyn a fydd yn diwallu'r angen hwnnw.

Gwerthuso canlyniadau:

Yn penderfynu a yw rhaglen wedi arwain at effeithiau y gellir eu profi ar ganlyniadau a ddiffiniwyd yn benodol.

Canlyniad:

Mae hyn yn cyfeirio at yr hyn sy'n digwydd yn sgil allbwn. Yn y Gronfa Loteri Fawr mae'n derm a ddefnyddir yn aml, gan weithredu ar lefelau gwahanol. Er enghraifft, mae strategaeth gwerthuso ac ymchwil y Gronfa Loteri Fawr yn ei ddefnyddio yng nghyd-destun 'themâu a chanlyniadau' y fframwaith ariannu, gan amlinellu nodau lefel uchel newid cymdeithasol ar gyfer detholiad o raglenni sydd i'w cyflwyno gan y Gronfa Loteri Fawr.

Gwerthuso prosesau:

Gwerthusiad sy'n archwilio proses cyflwyno'r rhaglen; yn aml yn cynhyrchu canfyddiadau dros dro ac enghreifftiau o arfer da. Yn y Gronfa Loteri Fawr rydym yn ei ddefnyddio i ddeall yr hyn rydym ni neu ein partneriaid ariannu yn ei wneud gyda mecanweithiau a gweithdrefnau cyflwyno, o'i gymharu â'r hyn y mae prosiectau eu hunain yn ei gyflwyno.

Gwerthuso rhaglenni:

Casglu gwybodaeth am weithgareddau, nodweddion a chanlyniadau rhaglenni mewn ffordd systematig. Mae pobl benodol yn ei ddefnyddio i leihau ansicrwydd, gwella effeithiolrwydd a gwneud penderfyniadau ynglyn â'r hyn y mae'r rhaglen yn ei wneud ac yn effeithio arno.

Ymchwil:

Proses a ddefnyddir mewn ymgais i ateb cwestiwn, datrys problem neu gyrraedd gwell dealltwriaeth o fater. Bwriedir i ymchwil ddatblygu neu gyfrannu at wybodaeth gyffredinol. O'i gymharu â gwerthuso, yn y Gronfa Loteri Fawr defnyddir ymchwil yn fwy er mwyn archwilio, gyda'r nod o naill ai ddatblygu dealltwriaeth o fenter/fater penodol neu gyfeirio meddwl ehangach.

Dadansoddiad eilaidd:

Dull o ailarchwilio data presennol er mwyn ymdrin â chwestiynau newydd neu ddefnyddio dulliau nas defnyddiwyd o'r blaen.

Hunanwerthuso:

Gwerthusiad a gyflawnir neu a gomisiynir gan aelodau'r sefydliad sy'n gyfrifol am yr ymyrraeth ei hun. Mae'n eu helpu i gasglu a defnyddio data monitro a gwerthuso i ateb eu cwestiynau eu hunain ynglyn ag ansawdd a chyfeiriad eu gwaith a rheoli'u perfformiad.

Gwerthusiad crynodol:

Yn archwilio effeithiau neu ganlyniadau'r rhaglen, p'un a oedd y canlyniad wedi’i achosi gan y rhaglen neu beidio, a'r effaith gyffredinol y tu hwnt i'r canlyniadau uniongyrchol.

Mae'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwerthuso crynodol yn cynnwys:

  • gwerthuso canlyniadau
  • gwerthuso effaith
  • dadansoddiad cost-effeithiolrwydd
  • dadansoddiad cost-buddion
  • dadansoddiad eilaidd
  • meta-ddadansoddiad.

Adolygiad systematig:

Yn adolygu llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli, gan wahanu tystiolaeth ymchwil uchel ei hansawdd oddi wrth dystiolaeth ymchwil ansawdd isel, a darparu crynodeb o'r hyn y mae tystiolaeth uchel ei hansawdd yn ei ddweud wrthym am bwnc neu faes polisi. Yn y Gronfa Loteri Fawr, gallwn ddefnyddio'r ymagwedd hon er mwyn adolygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer rhaglenni newydd.

Damcaniaethau newid:

Model ymarferol o sut a pham y gellir disgwyl i newidiadau y mae rhaglen yn ceisio ei wneud ddigwydd. Mae damcaniaethau newid yn creu cyswllt achosol rhwng gweithgareddau rhaglen a chanlyniadau, ac yn mynnu mynegiad ynglyn â pham y bydd rhywbeth yn arwain at rywbeth arall.

Defnyddir modelau i gynllunio a nodi bylchau mewn syniadau, datblygu consensws ymysg budd-ddeiliaid, pennu disgwyliadau realistig a gwella perfformiad yn barhaus. Gall damcaniaethau newid ddechrau gyda rhaglen ond maent ar eu gorau wrth ddechrau gyda nod, ac yna penderfynu pa ymagweddau y mae eu hangen o ran y rhaglen. Yna mae ymagwedd at ddatblygu rhaglen yn ffurfio sail i'w gwerthusiad drwy ddarparu fframwaith ar gyfer profi'r ddamcaniaeth.

Defnyddio:

Rhoi canfyddiadau a dysg ymchwil a gwerthuso ar waith.

Mae rhestrau termau ymchwil a gwerthuso eraill ar gael yn:

UK Evaluation Society
The Evaluation Center