Skip to content

Cynhadledd Gwerthuso ac Ymchwil 2007

Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol gyntaf y Gronfa Loteri Fawr ar werthuso, 'Tidy findings in an untidy world' ar 1 Tachwedd 2007 yn Llundain

Daeth dau ar hugain o siaradwyr, tua 100 o gyfranogwyr o amrywiaeth helaeth o sefydliadau a dwsin o aelodau o dîm ymchwil a gwerthuso'r Gronfa Loteri Fawr i'r gynhadledd, a oedd yn cynnwys cymysgedd bywiog o gyflwyniadau unigol, trafodaethau panel, sesiynau grŵp bach a chyd-drafodaeth ddifyr, "Cred y tŷ hwn fod gwerthuso'n ddiddorol yn fwy na dylanwadol". (Gellir lawrlwytho ffeiliau Sain a PowerPoint isod).

Mae nod y cyfarfod (yng ngeiriau'r Prif Weithredwr, Stephen Dunmore), mewn cyhoeddiad cyfochrog. Mae'r ddogfen hon yn crynhoi canfyddiadau allweddol ein hymchwil a'n gwerthuso dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae'n amlinellu ein hymagwedd at ymchwil a gwerthuso ac yn rhoi manylion ein heffaith. Y nod oedd rhannu'r profiad a gafwyd dros 12 mlynedd o ymchwil a gwerthuso gan y Gronfa Loteri Fawr a'i rhagflaenwyr, a thrafod ymagweddau newydd.

Dywedodd fod gan werthuso rôl allweddol o ran cyflawni cenhadaeth y Gronfa Loteri Fawr o fod yn "ariannwr deallus ... yn hytrach na dim ond dyfarnu grantiau'n effeithlon".

Gan gadarnhau sylwadau Juliet Mountford, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth yn Swyddfa'r Trydydd Sector wrth gynnig ei '10 awgrym pennaf' ar annog defnydd o ganfyddiadau gwerthuso, daeth y ffug cyd-drafodwyr i'r casgliad mai cyfathrebu yw'r allwedd i symud gwerthuso i ffwrdd o fod yn "hynod ddiddorol" ac i sefyllfa lle mae'n dylanwadu ar lunio strategaethau a pholisi.

Siaradodd Stephen dros lawer pan bwysleisiodd bwysigrwydd gwerthuso -- dysgu ohono yn ogystal â'i wneud: "Mae gwerthuso ac ymchwil yn cael eu gwastraffu os na fyddwn yn dysgu o'r hyn a ddarganfyddwn." Mae lledaenu'n un agwedd ar ddysgu, ond mae hefyd yn hollbwysig o ran mewnblannu'r wybodaeth newydd "er mwyn iddo fod yn rhan o'n DNA".

Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho adroddiad byr ar gynhadledd 2007, gan gynnwys y pedair sesiwn gyfochrog.

Lawrlwytho sleidiau a sain yma:

Sesiwn y gynhadledd Pethau i'w lawrlwytho
Gwerthuso deallus Stephen Dunmore, Prif Weithredwr, Cronfa Loteri Fawr Ffeil sain ddeuaidd i'w lawrlwytho Automatically Automatically imported binary.
- 3,219KB

(MP3, 3MB)

Gwerthuso yn y Gronfa Loteri Fawr: themâu a chanfyddiadau Sarah Mistry, Pennaeth Gwerthuso ac Ymchwil, Cronfa Loteri Fawr

Yn disgrifio'r cyfleoedd a gyflwynir gan raglen y Gronfa Loteri Fawr o werthuso ac ymchwil ac yn amlinellu diben a gweithredu'r gwerthusiad ac i ba raddau y mae'n ddefnyddiol.

Ffeil sain ddeuaidd i'w lawrlwytho Automatically Automatically imported binary.
- 3,219KB

(MP3, 6.5MB)

Evaluation, power and influence Mae Juliet Mountford, Swyddfa'r Trydydd Sector, yn trafod sut y gellir defnyddio gwerthuso i ddylanwadu ar ddatblygu polisïau, a heriau'r amgylchedd gwleidyddol.

Ffeil sain ddeuaidd i'w lawrlwytho Automatically Automatically imported binary.
- 3,219KB

(MP3, 4.5MB)

Capturing the benefits to individuals Steve Platt, Prifysgol Caeredin, a Sara Burns, Triangle Consulting

Yn aml gall lleisiau defnyddwyr gwasanaeth unigol gael eu hanwybyddu gan y gall eu cynnwys mewn gwerthusiadau fod yn ddrud ac yn anodd ac yn llethol o ran amser. Cyflwynodd y sesiwn hon atebion blaengar ar gyfer cipio profiad buddiolwyr.

Ffeil ddeuaidd sleidiau Steve Platt slides Automatically 
- 80KB
(Powerpoint)

Ffeil ddeuaidd sleidiau Sara Burns Automatically 
- 912KB
(Powerpoint)

'This House believes that evaluation is more interesting than influential' Martin Brookes (NPC), Diana Leat, Leslie Morphy (Crisis), Joe Saxton (nfpSynergy), Cadeirydd: David Carrington

Ffug gyd-drafodaeth fywiog ar ba mor ddefnyddiol yw'r trefniadau gwerthuso ac ymchwil polisi cymdeithasol, gan gynnwys hanesion, enghreifftiau, hiwmor, rhesymeg, coegni ac ystadegau.

Ffeil sain ddeuaidd i'w lawrlwytho Automatically Automatically imported binary.
- 3,219KB

(MP3, 13MB)